Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1834-1853 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.036 metrig ciwbig (4 cyfrol)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ym mis Tachwedd 1833, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg ac ymdeimlad gwladgarol yn Y Fenni a Sir Fynwy. Yr oedd nifer o gymdeithasau tebyg ar hyd a lled Cymru yn y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn Llundain. Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill Lloegr, ond yr oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn tra rhagori arnynt i gyd yn ei chynnyrch llenyddol a'i henwogrwydd byd eang. Ei phrif ysgogwyr oedd yr hynafiaethwyr Thomas Bevan ('Caradawc y Fenni', 1802-82), y Parch. Thomas Price ('Carnhuanawc', 1787-1848) ac Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer ('Gwenynen Gwent', 1802-96), ac ymhlith yr aelodau yr oedd enwogion megis y gerddores Maria Jane Williams, Aberpergwm (?1795-1873), Arglwyddes Charlotte Guest (1812-95) yr awdures, ac uchelwyr blaenllaw lleol, yn eu plith Syr Charles Morgan, Arglwydd Tredegar (1760-1852), Benjamin Hall, Arglwydd Llanofer (1802-67) a Syr Josiah John Guest (1785-1852). Amcanion penodedig y Gymdeithas oedd casglu llyfrau Cymraeg a dyfarnu gwobrwyon am areithiau, traethodau ysgrifenedig yn y Gymraeg ar themâu amaethyddol, barddonol, crefyddol, gwyddonol, hanesyddol a hynafiaethol, yn ogystal ag ar gerddoriaeth a chelfyddydau cain. Pwysleisiwyd y dylai pob ymddiddan fod yn y Gymraeg, a bu'r Gymdeithas yn gwneud cais am ddefnydd ehangach o'r iaith mewn ysgolion, prifysgolion, yn y llysoedd a'r Eglwys, er bod ei chyfansoddiad yn gofyn i aelodau beidio ag ymhél â phethau a allai arwain at anfoesoldeb, annheyrngarwch i'r wladwriaeth, neu unrhyw ddadl grefyddol neu genedlaethol. Canolbwynt y rhan fwyaf o waith Cymreigyddion y Fenni oedd yr eisteddfodau (a alwyd yn gylchwyliau), a ddechreuodd ar raddfa fechan yn 1834. Profodd y digwyddiadau blynyddol hyn yn boblogaidd iawn, ac fe'u mynychwyd gan filoedd o bobl o bob dosbarth, gan gynnwys ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru, academyddion blaenllaw o Lydaw a'r Almaen, a hyd yn oed llysgenhadon o Ewrop a thywysogion o India. Er gwaethaf ei chryfder ymddangosiadol yn y 1830au, yr oedd hadau distryw y Gymdeithas yn ei thwf. Defnyddid mwy a mwy o Saesneg yn y rhan fwyaf o agweddau ar ei gwaith, gan fod y mwyafrif o'i noddwyr, llawer o'r ymwelwyr, a rhai o'i haelodau, yn methu siarad na deall Cymraeg, ac yr oedd hefyd yn anodd dod o hyd i fan cyfarfod parhaol addas ar gyfer y cylchwyliau cynyddol. Ond y broblem fwyaf arwyddocaol oedd y methiant i gwrdd â goblygiadau ariannol. Dibynnai'r Gymdeithas yn drwm ar gefnogaeth hael bonheddwyr lleol a'r diwydiant gwlân lleol (yr hyrwyddwyd ei chynnyrch yn y cylchwyliau), ond fel yr ai'r amser heibio nid oedd yn gallu denu noddwyr sylweddol newydd i gwrdd â chostau cynyddol ei gweithgareddau. O ganlyniad, bu'n rhaid cwtogi ar amlder y cylchwyliau mor gynnar â 1840, a daeth y Gymdeithas i ben yn 1854.
Hanes archifol
Rhoddwyd ar adnau yn LlGC ym 1935 gan John Owen. Prynwyd y llawysgrifau ym 1941 gydag NLW MSS 13958, 13963-70.
Ffynhonnell
Mr John Owen; Y Fenni; Pryniad; 1941.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llenyddiaeth a gyflwynwyd i eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni, gyda beirniadaethau, 1834-1853. Nid yw'n cynnwys unrhyw bapurau gweinyddol. = Literary works submitted to the eisteddfodau of Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni, with adjudications, 1834-1853. No administrative papers are included.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 13959-13962.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a bydd rhestr diwygiedig o'r llawysgrifau yn ymddangos maes o law yn rhan o'r gyfres Handlist of Manuscripts yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Mair Elvet Thomas, Afiaith yng Ngwent: Hanes Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni, 1833-1854 (Caerdydd, 1978).
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Chwefror 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Mair Elvet Thomas, Afiaith yng Ngwent: Hanes Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni, 1833-1854 (Caerdydd, 1978); LlGC, Rhestr o gasgliad o gyfansoddiadau, beirniadaethau, etc., yn gysylltiedig â "Cylchwyliau Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni", 1834-1853; Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1959).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW.