Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1964-2000 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.172 metrau ciwbig (6 bocs); 3 bocs mawr (Mawrth 2013)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Sefydlwyd tŷ cyhoeddi Y Lolfa yn 1967 gan Robat Gruffudd er mwyn cyhoeddi gweithiau gwleidyddol, masweddus a phobolgaidd yn Gymraeg. Sefydlwyd y cwmni yn dilyn tŵf yn ymwybyddiaeth wleidyddol pobl ifanc Cymru, gan weithio gyda nifer o weithredwyr gwleidyddol newydd. Ehangodd y cwmni i gynnwys mathau eraill o weithiau yn cynnwys llyfrau dysgu Cymraeg, cyfeirlyfrau twristaidd, cerddoriaeth, llenyddiaeth gyfoes a llyfrau Cymraeg gwreiddiol i blant.
Sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol yn hen adeilad yr 'Emporium' yn Nhal-y-bont, gan gymryd ei enw o'r cylchgrawn poblogaidd a dychanol LOL. Wrth i'r cwmni ehangu bu rhaid symud adeiladau o fewn Tal-y-bont, Aberystwyth, a phrynwyd hen adeilad yr heddlu yno gan ehangu hwnnw nifer o weithiau. Yn ogystal tyfodd y Lolfa o ran staff ac yn 2000 roedd yn cyflogi deunaw o bobl. Bu'n gweithio yn glos gyda Chyngor Llyfrau Cymru gan ddibynnu yn helaeth ar y grantiau gan ddefnyddio cyfleusterau'r Cyngor Llyfrau ar gyfer dosbarthu. Y Lolfa oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r dechnoleg offset-litho a roddodd olwg ffres ac unigryw iddi.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mr Robat Gruffudd; Tal-y-bont, Aberystwyth; Rhodd; Medi 2004 a Mawrth 2013; 0200410309.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Gohebiaeth yn ymwneud â gwaith dydd i ddydd Y Lolfa yn trafod cynigion am gyhoeddiadau, y broses gyhoeddi ei hun, offer argraffu'r Lolfa, staff, grantiau Cyngor Llyfrau Cymru a materion yn codi o gyhoeddiadau'r Lolfa. Ymhlith y gohebwyr mae artistiaid, awduron, gwleidyddion a ffigyrau blaenllaw Cymru, ac yn aml yn y llythyrau cymysgir trafodaethau busnes a materion cyfoes, hynt yr iaith Gymraeg, yr angen am gyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig, a naws wleidyddol Cymru. = Correspondence relating to the daily work of the publishing firm Y Lolfa including offers of publications, the publishing process, publishing equipment, staff, Welsh Books Council grants and matters arising from Lolfa publications. The correspondents include artists, authors, politicians and prominent figures in Wales, and the letters often contain a mixture of business discussions and current affairs, news concerning the Welsh language, the need for publications in Welsh and about Wales, and politics in Wales.
Papurau ychwanegol o'r Lolfa yn cynnwys papurau yn ymwneud a 'Y Byd' a 'Cymuned'.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Mae'r fonds wedi cael ei werthuso. Dychwelwyd rhai papurau, yn eu plith tystlythyrau a llythyrau yn cynnwys manylion personol, at Mr Robat Gruffudd. Nodir manylion pellach yn y Ffurflen Werthuso Adrannol HW/2006-07/1..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System o drefniant
Trefnwyd yn ddwy gyfres: gohebiaeth gyffredinol a gohebiaeth ar bynciau penodol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Nia Llewellyn Jones, 'Dylanwad y gyfundrefn nawdd ar wasg y Lolfa' (Traethawd MSc Econ, Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1997).
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Gorffennaf 2006 a Chwefror 2008.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiadau gwreiddiol gan Hywel Gwynn Williams; gosodwyd y rhestr ar lein gan Siân Bowyer. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd, 1997) a chynnwys yr archif;