Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1986-1992 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.4 metrau ciwbig (14 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Sefydlwyd Yr Amserau yn 1843 gan William Rees (Gwilym Hiraethog) a John Jones (1790-1855). Newyddiadur pythefnosol oedd Yr Amserau a oedd yn gryf o blaid hawliau anghydffurfiaeth a radicaliaeth ac a ddaeth yn boblogaidd iawn pan ddechreuodd Rees gyhoeddi'r golofn 'Llythyrau 'Rhen Ffermwr'. Yn 1859, prynwyd Yr Amserau gan Thomas Gee a'i uno gyda'i bapur ef, Baner Cymru, a sefydlwyd ddwy flynedd cyn hynny, i greu Baner ac Amserau Cymru, neu Y Faner fel y'i gelwid yn ddiweddarach. Daeth y papur i gael dylanwad cryf ar fywyd crefyddol, gwleidyddol a llenyddol Cymru trwy gydol ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn rhyddfrydol ei ogwydd ac yn amddiffyn anghydffurfiaeth yn erbyn yr Eglwys Sefydledig, yn ogystal â bod yn gefn i'r werin mewn achosion radicalaidd megis dirwest a phwnc y tir. Yn ystod ugain mlynedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, dirywiodd y papur a hynny hyd nes daeth E. Prosser Rhys yn olygydd yn 1923. Bu ef yn olygydd ar Y Faner hyd at ei farwolaeth yn 1945. Yn 1935, prynodd Kate Robers a'i gŵr gwmni cyhoeddi Gwasg Gee, ac argraffwyd llawer o erthyglau ac adolygiadau'r awdur yn Y Faner. Gyda Gwilym R. Jones yn olygydd y papur wedi'r rhyfel a Mathonwy Hughes yn is-olygydd, 1949-1977, newidiodd y papur ei berchennog ddwywaith ac fe'i prynwyd yn 1956 gan Wasg y Sir, y Bala, oddi wrth Huw T. Edwards.
Yn ystod y 1960au a'r 1970au, dirywiodd y cylchrediad ac yr oedd y papur mewn perygl am ei fodolaeth, nes, yn 1977, gyda chymhorthdal oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, newidiwyd diwyg y papur i ffurf cylchgrawn wythnosol. Parhaodd Y Faner i chwarae rhan bwysig yng Nghymru fel un o'r ddau wythnosolyn Cymraeg â chylchrediad o tua thair mil. Daeth bygythiad arall i'r Faner pan benderfynodd Cyngor Celfyddydau Cymru yn erbyn adnewyddu grant Y Faner yn sgîl arolwg o'i nawdd i gyfnodolion. Prynwyd y papur gan Luned Meredith a'i gŵr David Meredith a wnaeth ymdrech i'w achub, dan olygyddiaeth Hafina Clwyd, ond er ymgyrchu caled, methwyd â gwneud hynny, a bu'n rhaid dirwyn Y Faner i ben yn 1992. Daeth y rhifyn olaf o'r wasg ar 17 Ebrill 1992.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhodd gan Mrs Luned Meredith a Mr David Meredith, Llanuwchllyn, Gorffennaf 2000.; A2000/50
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys papurau, 1986-1992, a grynhowyd gan Luned Meredith a David Meredith fel perchnogion Y Faner, gan gynnwys gohebiaeth a datganiadau i'r wasg; erthyglau drafft a chynnyrch cyffredinol y cylchgrawn ac, yn arbennig felly, casgliad cyflawn o'r holl gynnyrch a ddefnyddiwyd wrth gysodi pob rhifyn o Chwefror 1992 hyd at y rhifyn olaf yn Ebrill 1992; ceir hefyd bapurau gweinyddol Y Faner, yn cynnwys, gohebiaeth yn ymwneud â diwedd y cylchgrawn, llyfrau nodiadau'r golygydd a chymhorthion golygyddol; rhai cofnodion ariannol, a mynegai cyffredinol i gyfranwyr ac i'r pynciau a drafodwyd ganddynt yn Y Faner, 1987-1992.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Mae'r fonds wedi ei gwerthuso: gweler y manylion yn y disgrifiadau lefel cyfres..
Croniadau
Disgwylir rhagor o bapurau.
System o drefniant
Trefnwyd y fonds yn LlGC ar sail profiant yn dair adran: llythyrau a datganiadau i'r wasg; cynnyrch rhifynnau a ffeiliau pwnc; papurau gweinyddol a mynegeion.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn LlGC. Ceir mynegeion o gyfranwyr ac o'r pynciau a ymdriniwyd â hwynt yn R2, a cheir rhestri bras o gynnwys rhifynnau unigol yn N2.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd yr holl deitlau ar sail cynnwys yr archif oni nodir yn wahanol.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Meredith, Luned, 1942- (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2002
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ifan Prys.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Cydymaith i lenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1997).