Fonds GB 0210 MUDYSGMEI - Archif Mudiad Ysgolion Meithrin,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 MUDYSGMEI

Teitl

Archif Mudiad Ysgolion Meithrin,

Dyddiad(au)

  • 1971-2018 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

2.426 metrau ciwbig (209 bocs, 17 ffeil bocs); 4 bocs mawr (Medi 2009)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Chwarae Cymraeg, mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, gyda'r diben o hyrwyddo, cynnal ac ehangu'r ddarpariaeth o gylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae gwirfoddol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru, fel bod pob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru yn medru derbyn addysg feithrin a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolwyd pencadlys y mudiad yng Nghaerdydd i gychwyn (yn Aberystwyth erbyn hyn) ond y mae'r pwyslais ar gylchoedd chwarae lleol. Cofrestrir y grwpiau hyn, a elwir yn Gylchoedd Meithrin, yn elusennau annibynnol, a rheolir pob un gan bwyllgor o rieni a defnyddwyr eraill, sydd yn gyfrifol am fabwysiadu a gweinyddu polisïau, cyflogi staff, cyhoeddusrwydd a chodi arian. Trefnir y pwyllgorau ar lefel rhanbarth, gyda chefnogaeth rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion datblygu. Cynyddodd nifer y Cylchoedd Meithrin o 70 yn 1971 i 574 yn 2003, a gall rhieni di-Gymraeg chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg mewn nifer o Gylchoedd Ti a Fi.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Mr J. Bryan Jones, Cyfarwyddwr; Rhodd; Tachwedd 1989 a Chwefror 1996

Mr Hywel Wyn Jones, Cyfarwyddwr; Rhodd; Ebrill 1997

Ms Siwan Thomas; MYM, Aberystwyth; Rhodd; Medi 2009

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau gweinyddol Mudiad Ysgolion Meithrin, 1971-1996, yn cynnwys cofnodion, ffeiliau gohebiaeth, papurau cyllidol, a deunydd yn ymwneud â chyhoeddiadau, cyrsiau a digwyddiadau = Administrative papers, 1971-1996, of Mudiad Ysgolion Meithrin, including minutes, correspondence files, financial papers, and material relating to publications, courses and events.

Papurau ychwanegol yn perthyn i Fudiad Ysgolion Meithrin, gan gynnwys cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, 1971-1999; cofnodion Isbwyllgor Anghenion Arbennig, 1991-2005; cofnodion y Pwyllgor Cyhoeddi, 1975-1986; cofnodion is-bwyllgorau Ansawdd a Hyfforddiant, Cyllid a Staffio, Anghenion Arbennig, Cyhoeddusrwydd a Marchnata, 1991-1999; cofnodion y Bwrdd Cyfarwyddwyr Mabon a mabli, 1991-2003; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, 1986-1990 a 1991-1999; papurau gweinyddol; cofnodion Is-bwyllgor Polisi, 1994-2004; a cofnodion y Pwyllgor Gweithredol, 1979-1985; ynghyd â ffeil yn cynnwys ffotograffau a sleidiau. Nid yw'r casgliad hwn wedi ei gatalogio eto.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd yn naw grŵp: cyffredinol; gohebiaeth; gweinyddiaeth; pwyllgorau; ffeiliau dyddiol; cyrsiau/digwyddiadau; ariannol; cyhoeddiadau; a Rhodd Medi 2009.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Mae ffeiliau C53-4 a C78-80 ar gau am 50 mlynedd o'r dyddiad olaf ym mhob ffeil; ac eithrio s40 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

LlGC, Casgliad Sain a Delweddau Symudol: un ar ddeg o becynnau Cynllun Van Leer - yn cynnwys tri ar ddeg o gasetiau sain (CM 8146-7, CM 8150-60). Pecyn The Pre-School Child: Resource Pack (Open University/PPA)- yn cynnwys tair disg sain 7" (45/1123-5). Recordiad tâp DAT, 'Caneuon Cledwyn' (Life Education/MYM), (DT/93). Recordiad caset o raglen 'Stondin Sulwyn', 17 Mehefin 1992, Radio Cymru, (CM 8145). Dau dâp fideo (dyblygion), 'Cyd-chwarae: Integreiddio plant ag anghenion arbennig i'r Cylchoedd Meithrin' gyda llyfrau nodiadau ar gyfer tiwtoriaid (MYM/Wales PPA), (VM 5649-50). LlGC, Adran Darluniau a Mapiau: amrywiol ffotograffau du a gwyn (rhif derbyn 199800115), ffotograffau lliw (rhif derbyn 199800116), a negyddion (rhif derbyn 199800117).

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Stevens, Catrin, Meithrin: Hanes Mudiad Ysgolion Meithrin 1971-1996 (Llandysul, 1996).

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844313

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2003. Adolygwyd yn Ionawr 2020.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Papurau Mudiad Ysgolion Meithin; gwefan Mudiad Ysgolion Meithrin, mis Mawrth 2003; Stevens, Catrin, Meithrin: hanes Mudiad Ysgolion Meithrin 1971-1996 (Llandysul, 1996).

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Archif Mudiad Ysgolion Meithrin.