Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1911-2018, 2022 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
6 bocs
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd John Eilian yn brifardd a newyddiadurwr ac yn sefydlydd Y Cymro a’r Ford Gron. Ganwyd John Tudor Jones ar 29 Tachwedd 1903 yn Llaneilian, Ynys Môn, ond nodir ei flwyddyn geni fel 1904 mewn ffynonellau printiedig ac ar y plac ar ei gartref ym Mhenylan, Pen-sarn, Ynys Môn, a ddadorchuddiwyd yn 2004. Newidiodd ei enw canol yn gyfreithiol o 'Thomas' i 'Tudor' yn y 1930au. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Dechreuodd weithio fel gohebydd i’r Western Mail yn 1924. Golygodd gyfres o ugain o lyfrynnau o glasuron Cymraeg Y Ford Gron, 1931-1932 . Bu'n bennaeth hefyd ar raglenni’r BBC yng Nghaerdydd. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 a’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Cyfieithodd nofelau i blant a geiriau caneuon o’r Saesneg i'r Gymraeg a gyhoeddwyd gan W. S. Gwynn Williams. Yr oedd yn aelod o Gomisiwn Brenhinol ar y Wasg, 1974-1977.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Goronwy Tudor Jones; Birmingham; Eilian ap Hywel Tudor Jones; Cardiff a Nia Anthony; Rhodd; Medi 2018; 99906439402419
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau John Eilian, 1911-2018, 2022, yn cynnwys gohebiaeth, ei awdl ‘Maelgwn Gwynedd’, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947, a'r bryddest ‘Meirionnydd’ y dyfarnwyd iddo'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949, a cherddi eraill ganddo; papurau’n deillio o’i gyfnod fel newyddiadurwr; ac erthyglau ganddo a gyhoeddwyd mewn cylchgronau. = Papers, 1911-2018, 2022, of John Eilian, comprising correspondence, his poem in strict metre ‘Maelgwn Gwynedd’ which was awarded the chair at The National Eisteddfod held at Colwyn Bay in 1947, and the winning crown poem ‘Meirionnydd’ at The National Eisteddfod at Dolgellau in 1949 and other poems by him; papers relating to his work as a journalist; and articles published in periodicals.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn chwe chyfres ac un ffeil yn LlGC.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Defnyddiwyd nodiadau a baratowyd gan y rhoddwr i gyd-fynd â'r papurau fel sail i'r disgrifiadau.
Mae’r dyddiad creu olaf yn ddiweddarach na dyddiad marwolaeth John Eilian oherwydd ceir allbrintiau gan Goronwy Tudor Jones o waith ei Dad ac am fywyd a gwaith John Eilian.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Iaith(ieithoedd)
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: gwefan wikipedia [https://en.wikipedia.org/wiki/John_Tudor_Jones, gwelwyd 15 Ebrill 2019], gwefan y BBC [https://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/enwogion/llen/pages/john_eilian.shtml, gwelwyd 15 Ebrill 2019], Geraint Percy Jones, Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85), Barn, Ebrill 2012 a phapurau yn yr archif.
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.