Ffeil NLW MS 24131C. - Album y Bont

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

NLW MS 24131C.

Teitl

Album y Bont

Dyddiad(au)

  • 1840-1891, 1901 (crynhowyd 1872-1901) (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

78 ff. gydag ychwanegiadau (bonynnau gwag heb eu rhifo) ; 235 x 180 mm.

Lliain gwyrdd dros fyrddau; 'SCRAP ALBUM' (wedi'i stampio mewn aur ac inc du ar y clawr blaen, a'i stampio'n wag ar y clawr cefn).

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart; G.R.) yn y Diosg, Llanbrynmair, ar 5 Tachwedd 1810, yn frawd ieuengaf i Samuel (S.R.) a John (J.R.). Ymddiddorai mewn llenora, ysgrifennodd eitemau i'r Cronicl a chylchgronnau eraill, yn ogystal a nofel, Jeffrey Jarman (Machynlleth, [1855]), ond ei brif gyfrifoldeb oedd rhedeg y fferm. Priododd ag Anne Jones, Castell Bach, ym 1853 a cawsant un ferch, Margaret. Yn 1856 ymfudodd y teulu i Tennessee a sefydlu fferm o'r enw Brynyffynon. Arhosodd G.R. a'i deulu yno tan 1872 cyn dychwelyd i fyw yng Nghonwy gyda'i frodyr. Yn y cyfnod yma cychwynodd yntau bregethu. Bu farw ar 25 Gorffennaf 1883, a'i wraig ym 1886.

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Joseph Parry (1841-1903), musician and composer, was born in Merthyr Tydfil within a musical and choral environment. In 1854 the family moved to Pennsylvania, where Parry worked in iron rolling-mills while studying music in his spare time. His successes in composition competitions at the National Eisteddfod of Wales during 1863-1864 led to the establishment of a fund which enabled Parry to study at the Royal Academy of Music from 1868 to 1871. Having gained his degree, Parry returned to the United States, where he established a private music school before, in 1874, being appointed professor and head of the new department of music at University College, Aberystwyth, a post he held for the following six years. In 1878 he gained a Mus. Doc. (Cantab.) degree. From 1881 to 1888 Parry served as organist of Ebenezer Chapel, Swansea, and as head of a musical college which he founded, and from 1888 until his death in 1903 he was lecturer in music at University College, Cardiff. Parry was a prolific composer of songs, choruses, anthems, hymns, and some instrumental works. He wrote several operas, of which 'Blodwen' (1880) enjoyed some five hundred performances by 1896. Among Parry's other major works are the oratorios 'Emmanuel' (1880) and 'Saul' (1892), and the cantata 'Nebuchadnezzar' (1884). His hymn-tune 'Aberystwyth' has become a classic.

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd Samuel Roberts (S.R.) yn weinidog Annibynol, awdur, golygydd a diwygiwr Radicalaidd. Ganwyd ar 6 Mawrth 1800 yn Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yr ail blentyn a'r mab hynaf i'r Parch. John Roberts (1767-1834) a'i wraig Mary (m. 1848). Ym 1806 symudodd y teulu i fferm Y Diosg i fyw. Cafodd S.R. ei addysgu gan ei dad, ac o 1819 yn yr academi yn Llanfyllin (a symudwyd wedi hynnu i'r Drenewydd). Cafodd ei ordeinio ym 1827 fel cyd-weinidog i'w dad yn Llanbrynmair a daeth yn adnabyddus fel pregethwr. Ym 1835 roedd yn ysgrifennydd Apel y Capeli Annibynol Cymreig a geisiai ddileu dyledion y capeli yng Ngogledd Cymru. Ymgyrchodd dros ddiwygio cymdeithasol ac addysgiadol, gan fynegi ei farn yn y wasg a mewn traethodau eisteddfodol. Ceisiodd wella iechydiaeth, technegau amaethyddol, twf economaidd a trafnidiaeth yng nghefn gwlad Cymru. Yn 1843 cychwynnodd Y Cronicl, papur newydd Radicalaidd misol a ddaeth yn neillduol o boblogaidd. Roedd S.R. yn lwyrymorthodwr ac yn heddychwr ymroddgar. Gwrthwynebai caethwasaeth a chefnogai rhoi'r bleidlais i ferched. Roedd hefyd o blaid diwygio hawliau tenantiaid, yn rhannol oherwydd yr anghytundebau parhaol rhwng ei deulu a stiward stad Wynnstay, perchennog Y Diosg. Hyn yn y pen draw barodd i S.R. ymfudo i Tennessee i sefydlu trefedigaeth Gymreig yn Scott County. Aeth ei frawd Gruffydd (G.R.) a'i deulu yno ym 1856 ac ymunodd S.R. a nhw ym 1857. Ond cafodd yno fwy o broblemau gyda goruchwylwyr tir, a rhoddwyd ei fywyd mewn perygl oherwydd ei ddaliadau heddychol yn ystod y Rhyfel Cartref, 1861-1865. Methodd yr ymgais a dychwelodd S.R. i Gymru ym 1867 i fyw gyda'i frawd arall John (J.R.) yng Nghonwy. Sefydlodd papurau newydd wythnosol Y Dydd ym 1868 a'r Celt ym 1878. Ymysg ei gyhoeddiadau roedd Dau Draethawd (Caernarfon, 1834), Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837), Farmer Careful of Cilhaul Uchaf (1850), Diosg Farm: A Sketch of its History (Drenewydd, 1854), Gweithiau (Dolgellau, 1856), Pregethau a Darlithiau (Utica, N.Y., 1865), Funeral Addresses (Conwy, 1880) a Pleadings for Reforms (Conwy, 1880). Bu farw yng Nghonwy ar 24 Medi 1885.

Hanes archifol

Ym meddiant Sarah Roberts (née Williams) ym 1914 (gw. D. Cunllo Davies, 'Album y Bont', Cymru, 47 (1914), 84-88 (t. 84)); prynwyd gan lyfrwerthwr mewn arwerthiant yng Nglydach, Cwm Tawe, fel rhan o 'job lot', a'i werthu 'rhai blynyddoedd' yn ddiweddarach i Dewi Lewis, Mai 2018 (gw. Dewi Lewis, '"Album y Bont": Ailddarganfod Hen Drysor', Llais: Papur Bro Cwmtawe, Mawrth 2019, t. 16).

Ffynhonnell

Mr Dewi E. Lewis; Clydach; Pryniad; Gorffennaf 2019; 99975743802419.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Albwm llofnodion, 1872-1878, 1901, a fu'n eiddo i Sarah Williams, Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth, emynau a rhyddiaith Cymraeg a Saesneg yn nwylo tua 123 o weinidogion, beirdd ac unigolion eraill a oeddynt yn adnabod ei thad, William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Ceir yn y gyfrol yn ogystal dau ddeg pedwar o lythyrau, 1840-1891, 1901, y rhan fwyaf at Gwilym Cyfeiliog neu ei blant, a phedwar eitem arall, i gyd wedi'i tipio i mewn. = Autograph album, 1872-1878, 1901, of Sarah Williams of Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, Montgomeryshire, containing examples of poetry, hymns and prose in Welsh and English in the hands of some 123 Nonconformist ministers, poets and other individuals, mostly acquainted with her father William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Also included are twenty-four letters, 1840-1891, 1901, mostly addressed to Gwilym Cyfeiliog or his children, and another four items, all tipped into the volume.
Ymysg y cyfranwyr mae Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) a Ieuan Gwyllt (f. 74). Ceir llythyrau gan W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [y Parch.] Richard [Williams], [ewythr Sarah Williams], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [y Parch.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, Tachwedd-[Rhagfyr] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copi)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [y Parch.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [AS], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), ac eraill. Hefyd yn y gyfrol mae copi o'r emyn pedair pennill, yn cychwyn 'Er mai hollol groes i nattur…', o waith Ann Griffiths, yn llaw y Parch. John Hughes Pontrobert, [?1840au] (ff. 56 recto-verso; gw., er enghraifft, Gwaith Ann Griffiths, [gol. gan O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), tt. 30-31), ar gefn byr-gofiant Thomas Meredith, Llanbrynmair, gan 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; gw. hefyd f. 52). = The contributors include Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) and Ieuan Gwyllt (f. 74). There are letters from W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [the Rev.] Richard [Williams], [Sarah Williams's uncle], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [the Rev.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, November-[December] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copy)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [the Rev.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [MP], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), among others. Also inserted into the volume is a copy of the hymn of four stanzas beginning 'Er mai hollol groes i nattur…' by Ann Griffiths in the hand of the Rev. John Hughes, Pontrobert, [?1840s] (f. 56 recto-verso; see, for instance, Gwaith Ann Griffiths, [ed. by O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), pp. 30-31), written on the reverse of a brief memoir of Thomas Meredith, Llanbrynmair, by 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; see also f. 52).

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Groeg
  • Lladin
  • Llydaweg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg, ychydig o Ladin, Groeg a Llydaweg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Y meingefn wedi'i drwsio gydag edau. Y meingefn a nifer o ddalennau wedi'i trwsio a nifer o'r llythyrau wedi eu gosod ar gardiau newyddion yn LlGC, 2019; eitemau oedd wedi eu pinio i ff. 15, 37, 40 a 47 verso nawr wedi eu tipio i mewn (ff. 16, 38, 52, 48 yn eu tro); eitemau rhydd hefyd wedi eu tipio i mewn (ff. 72-73, 75-76).

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir papurau teuluol eraill yn LlGC, Bontdolgadfan (Williams family) Papers. Yn ôl D. Cunllo Davies (t. 88) roedd dau albwm arall yng nghartref Sarah Roberts (née Williams) ym 1914 ond nid yw eu lleoliad presennol yn hysbys.

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

D. Cunllo Davies, 'Album y Bont', Cymru, 47 (1914), 84-88.

Nodyn cyhoeddiad

Dewi Lewis, '"Album y Bont": Ailddarganfod Hen Drysor', Llais: Papur Bro Cwmtawe, Mawrth 2019, tt. 16-17.

Nodyn cyhoeddiad

Dewi Lewis, 'Album y Bont: Ailddarganfod Hen Drysor', Y Casglwr, 126 (Haf 2019), 17-18.

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl yn seiliedig ar gartref Sarah Williams.

Nodiadau

'Sarah Williams May 25th 1872' (f. 1).

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Rhif rheoli system Alma

99975743802419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Gorffennaf 2019.

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Jones.

Ardal derbyn