Dangos 2970 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Rees, Alwyn D.

  • Person

Roedd Alwyn D. Rees (1911-1974) o Gorseinon, sir Forgannwg, yn gymdeithasegydd. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn cael ei benodi'n diwtor yn 1936 ac yn Gyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol y coleg hwnnw yn 1949. Parhaodd yn y swydd tan ei farwolaeth. Gwelodd y bygythiadau sydd yn wynebu diwylliannau lleiafrifol, ac roedd yn gefnogwr brwd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod cyfnod mwyaf dadleuol ei hanes. Roedd Rees yn un o'r ymgyrchwyr dros sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth. Roedd yn olygydd Barn, 1966-1974, ac Yr Einion rhwng 1949 a 1958. Yn 1950 cyhoeddodd gampwaith ar astudiaethau gwerin Cymru, Life in a Welsh Countryside, am blwyf Llanfihangel yng Ngwynfa yn y 1930au, ac roedd yn gyd-olygydd Welsh Rural Communities. Ysgrifennodd Celtic Heritage yn 1961 gyda'i frawd Brinley Rees.

Owen, Bob, 1885-1962.

  • Person

Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.

Hughes, D. G. Lloyd.

  • Person

Ganwyd a magwyd Dafydd Glyn Hughes (g. 1921) ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Mynychodd Ddosbarth y Babanod ac Ysgol Elfennol Troed-yr-allt ac Ysgol y Sir, Pwllheli. Treuliodd ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil, yn Llundain i gychwyn, ond hefyd mewn gwahanol ardaloedd ar draws Cymru a Lloegr. Bu'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, 1960-1966, a symudodd i Ben-bre, sir Gaerfyrddin, yn 1966, ac yna i New Inn, Pencader, Dyfed, ym 1985. Cynhyrchodd lawer o lyfrau ac erthyglau ar hanes lleol Pwllheli, ardal Llanelli a New Inn, ysgrifennodd ar gyfer Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Y Casglwr, Llanw Llyn, Llafar Gwlad, Barn, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chyfrannu erthyglau i gyfrolau Cyfres y Cymoedd ar Gwm Aman (Llandysul, 1996) a Merthyr a Thaf (Llandysul, 2001).

Canlyniadau 81 i 100 o 2970