Dangos 58023 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Owen, Daniel, 1836-1895.

  • Person

Roedd Daniel Owen (1836-1895) yn nofelydd a theiliwr. Ganed ef yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ar 20 Hydref 1836, yn fab ieuengaf i Robert Owen (bu f. 1837) a'i wraig Sarah (1796-1881). Prentisiwyd ef yn deiliwr ac yn y pen draw cychwynnodd fusnes ei hun yn yr Wyddgrug, er iddo dreulio peth amser yng Ngholeg y Bala gyda'r bwriad o ddod yn weinidog. Cafodd ei berswadio gan y Parch. Roger Edwards i gyhoeddi rhai o'i bregethau yn Y Drysorfa. Dilynwyd y rhain gan y nofelau Y Dreflan (Treffynnon, 1881) a Hunangofiant Rhys Lewis (Yr Wyddgrug, 1885), y ddau wedi eu cyhoeddi gyntaf yn fisol yn Y Drysorfa. Cyfreswyd ei ddwy nofel arall, Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891) a Gwen Tomos (Wrecsam, 1894), yn gyntaf yn Y Cymro (Lerpwl). Heblaw'r rhain cyfrannodd golofn o'r enw 'Nodion Ned Huws' i'r Cymro, 1892-1894, a chyhoeddodd Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), casgliad o ysgrifau a barddoniaeth, a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895), casgliad o storïau. Bu farw Daniel Owen yn yr Wyddgrug ar 22 Hydref 1895.

Owen, Dyddgu.

  • Person

Yr oedd Dyddgu Owen (1906-1992), y llenor, yn enedigol o sir Drefaldwyn. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, bu'n dysgu yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Roedd ganddi gysylltiadau, hefyd, ag ysgol anghenion arbennig ym Mhowys. Cychwynnodd ei gyrfa lenyddol yn y 1950au gyda chyhoeddi sawl llyfr antur i blant. Ymhlith ei gweithiau eraill yr oedd storiâu i blant iau, llyfrau taith i oedolion a'i nofel fwyaf adnabyddus, Y Flwyddyn Honno (1978), a enillodd iddi wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau Cymraeg am ffuglen yn Gymraeg yn 1979. Bu'n golofnydd i Baner ac Amserau Cymru a'r Cymro. Bu farw yn Harlech yn 1992. Mae'n ymddangos i'w ffrind, Sarah Ceridwen Davies, rannu'r diddordeb oedd ganddi ar hyd ei hoes mewn addysg a phynciau llenyddol.

Canlyniadau 1961 i 1980 o 58023