Dangos 58013 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Mudiad Ysgolion Meithrin.

  • Corporate body

Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Chwarae Cymraeg, mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, gyda'r diben o hyrwyddo, cynnal ac ehangu'r ddarpariaeth o gylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae gwirfoddol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru, fel bod pob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru yn medru derbyn addysg feithrin a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolwyd pencadlys y mudiad yng Nghaerdydd i gychwyn (yn Aberystwyth erbyn hyn) ond y mae'r pwyslais ar gylchoedd chwarae lleol. Cofrestrir y grwpiau hyn, a elwir yn Gylchoedd Meithrin, yn elusennau annibynnol, a rheolir pob un gan bwyllgor o rieni a defnyddwyr eraill, sydd yn gyfrifol am fabwysiadu a gweinyddu polisïau, cyflogi staff, cyhoeddusrwydd a chodi arian. Trefnir y pwyllgorau ar lefel rhanbarth, gyda chefnogaeth rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion datblygu. Cynyddodd nifer y Cylchoedd Meithrin o 70 yn 1971 i 574 yn 2003, a gall rhieni di-Gymraeg chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg mewn nifer o Gylchoedd Ti a Fi.

music

Mynydd y Fflint (Church : Flint Mountain, Wales)

  • Corporate body

Credid mai gŵr o'r enw Dafydd Jones ddechreuodd yr achos ym Mynydd y Fflint ym 1801 ac ef a gychwynnodd yr Ysgol Sul yn ei gartref, Waen Isaf. Rhoddwyd tir i'r achos gan fonheddwr lleol, Edward Lewis, Bryn Edwyn, ac agorwyd y capel gan John Elias rhywbryd rhwng 1824 ac 1826. Ymestynnwyd ac atgyweiriwyd y capel ym 1859 ac adnewyddwyd yr adeilad ymhellach ym 1882.

Nathan Wyn, 1841-1905

  • no2007035434
  • Person

Roedd Jonathan Rees (Nathan Wyn, 1841-1905), yn fardd ac yn ysgrifwr oedd yn gweithio fel swyddog pwll glo yn Ystrad Rhondda, sir Forgannwg. Enillodd bri fel bardd, gan ennill chwe gwobr yn Eisteddfod Lerpwl yn 1900. Cyfrannodd gerddi i amryw gyfnodolyn a chyhoeddodd Caniadau Nathan Wyn (Treherbert, 1881). Ei frawd ieuengaf oedd y Parch. Evan Rees (Dyfed, 1850-1923).

National Eisteddfod of Wales. Swyddfa Ganolog.

Sefydlwyd Swyddfa Ganolog Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1978 i baratoi gwaith ar gyfer yr Eisteddfod, yr ŵyl ddiwylliannol flynyddol a gynhelir mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Dyma brif ddigwyddiad diwylliannol Cymru, gyda'i gwreiddiau yn y canol oesoedd: fe'i hadferwyd yn y 18fed ganrif fel gŵyl gystadleuol flynyddol o gerddoriaeth, llenyddiaeth a'r celfyddydau sydd yn meithrin yr iaith Gymraeg. Pwyllgor gwaith yr Eisteddfod yw y Cyngor, sydd yn gyfrifol am ddewis y lleoliad a chynnwys pob cyfarfod; mae'r Swyddfa Ganolog yn gweithredu yn gefn i'r Cyngor.

Nazareth (Church : Aberdare, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Eglwys Nazareth, Aberdâr, yn 1860. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn 1964 pan unwyd Nazareth ag Eglwys Bethania, Aberdâr.

Nazareth (Church : Pentre, Wales)

  • Corporate body

Cychwynnwyd y Capel gan aelodau o Jerusalem, Ton Pentre, Ystrad Rhondda, yn 1875. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol i Gapel Nazareth ar 14 Gorffennaf 1878. Sefydlwyd yr Ysgol Sul gan ddwy Eglwys sef Jerusalem, Ton Pentre, a Bethlehem, Treorci. Bu William Mabon Abraham (1842-1922), aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru, yn flaenor yn y Capel. Dymchwelwyd y capel cyn 1997.

Canlyniadau 1881 i 1900 o 58013