Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Capel Maentwrog Isaf (Wales)

  • Corporate body

Yn 1872 cafwyd tir ym Maentwrog gan Mr Oakley, Tanybwlch, ac fe adeiladwyd capel arno a fedrai ddal cant ac wythdeg o bobl. Codwyd y capel ar godiad tir ar y ffordd o bentref Maentwrog i gyfeiriad Ffestiniog. Dechreuwyd addoli yno yn 1873, ac yn 1875 rhannwyd y teithiau fel bod Capel y Babell gyda Maentwrog Uchaf, a Llennyrch gyda Maentwrog Isaf.

Erbyn 1891 roedd capeli Maentwrog Isaf, Llennyrch a Maentwrog Uchaf gyda'i gilydd, ond caewyd eglwys Llennyrch yn 1895. Roedd capel Maentwrog Isaf yn Nosbarth Ffestiniog, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd. Gelwid y capel ar lafar gwlad yn 'gapel newydd' er bod capeli eraill yn yr ardal wedi eu hadeiladu'n fwy diweddar. Caewyd y capel yn 1977.

Capel Maesgeirchen (Bangor, Wales)

  • Corporate body

Dechreuodd y Methodistiaid Calfinaidd gyfarfod ar ystad Maesgeirchen, Bangor, yn 1948, a sefydlwyd eglwys yno yn Ionawr 1954 fel rhan o ddosbarth Bangor Ogwen, Henaduriaeth Arfon. Erbyn Ionawr 2000 roedd yr Eglwys wedi cau.

Capel Moriah (Kenfig Hill, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd Capel Moriah, Mynydd Cynffig, yn 1850. Bu'r Capel yn rhan o Ddosbarth Pen-y-bont ar Ogwr yn Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg.

Capel Nazareth (Penrhyndeudraeth, Wales)

  • Corporate body

Cychwynnodd yr achos ym Mhenrhyndeudraeth yn 1770 ac adeiladwyd capel yno yn 1777. Dyma'r ail gapel a adeiladwyd yn Sir Feirionnydd. Saif yr hen gapel gwreiddiol o fewn tafliad carreg i Nazareth. Defnyddiwyd yr hen gapel hyd 1815, pryd adeiladwyd capel newydd o'r enw Bethel mewn lle newydd. Gelwid yr ail gapel yn 'gapel canol' gan yr ardalwyr.

Cynyddodd y gynulleidfa yn dilyn y diwygiad dirwestol a bu'n rhaid adeiladu capel helaethach eto, lle mae'r capel presennol. Agorwyd ef ar 8 Mehefin 1839. Oherwydd bod dirwestaeth mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, oherwydd bwriadau'r holl drigolion fod yn Nasareaid, sef yn llwyrymwrthodwyr. Roedd hwn yn gapel mawr gyda lle i dri chant i eistedd. Rhoddwyd galeri ynddo yn 1860 ac fe'i hadnewyddwyd yn 1880. Yn 1900 codwyd ysgoldy ar gyfer plant yr Ysgol Sul. Mae'r Eglwys yn perthyn i Ddosbarth Gogledd Meirionnydd.

Capel Newydd (Llanddarog, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos yn Llanddarog yn 1795, sef blwyddyn codi'r capel cyntaf. Ailadeiladwyd capel ym 1848, ac fe adnewyddwyd hwnnw ym 1903 ac 1949. Bu'n fam-eglwys i Gapel y Ddôl, Llanarthne a sefydlwyd c. 1815. Enwyd y capel yn Seion ond fe'i adwaenir fel Capel Newydd. Mae'n perthyn i Ddosbarth Llanddarog, Henaduriaeth De Myrddin.

Capel Newydd (Pontrobert, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Pontrobert, Meifod, plwyf Llangynyw, Sir Drefaldwyn yn 1800, ond fe'i defnyddiwyd fel ysgol am gyfnod pan oedd John Hughes Pontrobert yn dysgu yno. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Methodistiaid yn 1814 a daeth yr adeilad yn gapel eto, gyda John Hughes a'i wraig Ruth yn byw yn y tŷ. Gelwir y capel hwn yn Hen Gapel John Hughes, ac ailagorwyd y drysau yn 1995 fel 'Canolfan Undod ac adnewyddiad Cristnogol i'r genedl'.

Adeiladwyd Capel Newydd Pontrobert, a elwir hefyd yn Capel uchaf, yn 1865 ac fe'i sefydlwyd yn yr un flwyddyn. Fe gostiodd dros £500 i'w adeiladu, ac fe gliriwyd y rhan fwyaf o'r ddyled trwy gynnal casgliad cyffredinol trwy Sir Drefaldwyn.

Capel Newydd y Brithdir (Brithdir, Gwynedd, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Newydd y Brithdir yn 1911 ym mhlwyf Brithdir ac Islaw'r Dref pan brynwyd acer o dir gan eglwysi Rhiwspardyn, Brithdir, a Seilo, Rhydymain, a chafwyd mynwent at wasanaeth y tair eglwys. Sefydlwyd yr eglwys ar 11 Tachwedd 1911. Cafwyd llyfrgell hefyd yn festri'r addoldy at ddefnydd y tair eglwys.

Caewyd Capel Newydd y Brithdir yn 2002. Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth Dolgellau yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionydd.

Canlyniadau 101 i 120 o 11925