- Person
Roedd John Stoddart (1924-2001) yn gerddor a chyfieithydd adnabyddus. Fe'i magwyd yn Llansanffraid Glan Conwy, ac wedi treulio cyfnod gyda'r Catrawd Tanciau yn ystod y Rhyfel aeth i ddilyn cwrs dysgu yn y Coleg Normal, Bangor, cyn treulio rhai blynyddoedd yn dysgu mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Cafodd gryn lwyddiant wrth gystadlu ar y canu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc, a bu galw amdano fel unawdydd ledled Cymru. Enillodd ysgoloriaeth ym 1955 i astudio yn yr Ysgol Opera Genedlaethol yn Llundain a daeth i amlygrwydd fel unawdydd tenor gydag amryw o gwmnïau opera, yn eu plith cwmnïau Glyndebourne, Sadlers Wells, D'Oyly Carte a Covent Garden.
Bu'r teulu'n byw yn Llundain am flynyddoedd, ond yn dilyn ei ymddeoliad symudodd John Stoddart a'i wraig Myfi yn ôl i Abergele. Bu'n hyfforddi cantorion ifanc ac roedd yn wyneb cyfarwydd fel beirniad mewn eisteddfodau a gwyliau eraill. Roedd yn ymgynghorydd lleisiol, yn gyfieithydd toreithiog o ganeuon, ac yn olygydd cyfieithiadau eraill, y cyfan ar gyfer cystadleuthau cerddorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n aelod o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol a chafodd ei urddo i'r wisg wen yn Eisteddfod Casnewydd ym 1988.
Mae'n debyg mai drwy ddysgu amryw ieithoedd fel canwr proffesiynol y magodd John Stoddart ddiddordeb mewn cyfieithu. Roedd yn rhugl mewn nifer o ieithoedd a datblygodd hoffter arbennig am yr Wyddeleg a'r Aeleg. Cyhoeddwyd sawl cyfrol o'i gyfieithiadau o farddoniaeth a rhyddiaith Aeleg ac roedd yn cyfrannu i gylchgronau yn yr iaith honno yn ogystal â chyfnodolion Cymreig. Mae'r canlynol ymhlith ei weithiau cyhoeddedig: Cerddi Gaeleg cyfoes: detholiad o farddoniaeth Aeleg a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod 1937-1982, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig cyf. VI (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru ar ran yr Academi Gymreig, 1986) ac Y meudwy a storïau Gaeleg eraill (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 2000).