Williams, J. E. Caerwyn (John Ellis Caerwyn)
- n 80149567
- Person
- 1912-1999
Roedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams (1912-1999) yn un o brif ysgolheigion Cymraeg a Cheltaidd yr ugeinfed ganrif.
Fe'i ganwyd yng Ngwauncaegurwen, Morgannwg, 17 Ionawr 1912, yr hynaf o dri phlentyn John R. a Maria Williams. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Ystalyfera, Coleg y Brifysgol, Bangor, Coleg y Brifysgol a Choleg y Drindod, Dulyn, a Cholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala. Ymunodd â staff Adran y Gymraeg, Bangor, yn 1945, a'r flwyddyn ganlynol fe'i priodwyd â Gwen Watkins o Abertridwr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1953. Yn 1965 symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i fod yn Athro cyntaf yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru. Cafodd radd D.Litt.Celt.Er Anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1967 a Phrifysgol Cymru yn 1983, a'i ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1978 ac yn Aelod Mygedol o Academi Frenhinol Iwerddon yn 1989. Fe'i etholwyd yn Llywydd yr Academi Gymreig yn 1988. Ar ôl ymddeol yn 1979 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Arhosodd yn y swydd honno tan 1985. Bu farw 8 Mehefin 1999.
Yr oedd yn awdurdod ar y gwareiddiad Celtaidd ac ysgrifennodd yn helaeth am draddodiadau llenyddol Cymru ac Iwerddon. Ymhlith ei brif gyfraniadau fel ysgolhaig Cymraeg mae ei astudiaethau ar y Gogynfeirdd a llenyddiaeth grefyddol yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion (1973), Canu Crefyddol y Gogynfeirdd (1977) a The Poets of the Welsh Princes (1978). Ysgrifennodd hefyd ar lenyddiaeth mwy diweddar Cymru, gan gynnwys ei astudiaethau o waith Edward Jones, Maes-y-Plwm, geiriadurwyr Cymraeg cyfnod y Dadeni, John Morris-Jones a'i gylch, ac amryw o'r prif lenorion cyfoes, megis Syr T. H. Parry-Williams, Waldo Williams a Saunders Lewis. Fel ysgolhaig Gwyddeleg ei brif gyfraniadau oedd Traddodiad Llenyddol Iwerddon (1958), Y Storïwr Gwyddeleg a'i Chwedlau (1972) a The Court Poet in Medieval Ireland (1972). Roedd yn gyd-awdur The Irish Literary Tradition (1992). Cyhoeddodd gyfieithiadau o storïau Gwyddeleg a Llydaweg, ynghyd ag astudiaethau ieithyddol ar yr ieithoedd hyn a'r Gymraeg. Yn ogystal â golygu cyfrolau fel Llên a Llafar Môn (1963), Llên Doe a Heddiw (1964) a Literature in Celtic Countries (1971), bu'n olygydd Y Traethodydd ac Ysgifau Beirniadol o 1965 ymlaen, Studia Celtica o 1966 a chyfres Llên y Llenor o 1983. Bu'n olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru er 1968, ac yn olygydd Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg (1988) a Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (1994).