Dangos 58004 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • n 93030027
  • Corporate body
  • 1979-

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Capel Aberfan (Aberfan, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Aberfan yn 1876. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth Cwm Cynon a Merthyr). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2002.

Capel Beddgelert (Beddgelert, Wales)

  • Corporate body

Codwyd y Capel cyntaf ym Meddgelert ym 1794. Capel bychan iawn ydoedd heb unrhyw eisteddleoedd a thŷ bychan ynghlwm iddo. Atgyweiriwyd yr adeilad ym 1826, cyn gwario £1100 arno ym 1858, gan wneud lle i 400 o bobl. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog ym 1898. Roedd 196 o aelodau yng nghapel Beddgelert ym 1900. Roedd yr achos mor boblogaidd ym Meddgelert nes bu'n rhaid sefydlu tri chapel arall yn yr ardal, sef Bethania yn 1822, Rhyd-ddu yn 1825 a Peniel ym 1833. Roedd y Capel ar gau adeg llunio'r disgrifiad hwn.

Capel Bethania (Corris, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1854 ar fin y ffordd o Ddolgellau i Fachynlleth yng Nghorris Uchaf, ym mhlwyf Tal-y-Llyn, Sir Feirionnydd. Codwyd yr ail gapel, ar yr un safle wrth dalcen y llall ym 1867, a chaewyd y capel hwnnw tua 1986.

Hyd at 1869, 'roedd Bethania yn rhan o Eglwys Corris (Rehoboth), ond yn y flwyddyn honno fe'i sefydlwyd fel eglwys ar wahân. Ym 1873, daeth y Capel a Chapel Ystradgwyn gyda'i gilydd yn un daith fugeiliol, ac ar ôl ad-drefniad ym 1911 unwyd hwynt â Rehoboth i ffurfio un ofalaeth eglwysig. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Ddwy Afon yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Capel Bethel (Melin-y-Coed, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Melin-y-Coed, ym mhlwyf Llanrwst, Sir Ddinbych. Codwyd y capel hwn mewn ymateb i lwyddiant yr Ysgol Sul yn yr ardal a ddechreuodd oddeutu 1793.

Yn y blynyddoedd cynnar 'roedd yr Ysgol Sul yn dra symudol nes y penderfynwyd codi cartref parhaol. O'r penderfyniad hwn daeth y syniad o adeiladu capel a agorodd ei ddrysau ym mis Gorffennaf 1827. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Llanrwst yn Henaduriaeth Dyffryn Conwy.

Capel Bethesda (Tywyn, Wales)

  • Corporate body

Cychwynnwyd achos Eglwys Gynulleidfaol Bethesda, Tywyn, sir Feirionnydd, yn y flwyddyn 1804. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, adeiladwyd capel newydd, a gynlluniwyd gan T.E.Morgan, Aberystwyth, Ceredigion. Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, adeiladodd yr eglwys fans yn ogystal, ar gyfer y gweinidog.

Canlyniadau 181 i 200 o 58004