Showing 55104 results

Authority record

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982

  • n 50051799
  • Person

Roedd Iorwerth Cyfeiliog Peate (1901-1982) yn ysgolhaig ac yn fardd.

Fe'i ganwyd ym Mhandy Rhiwsaeson, Llanbryn-mair, Trefaldwyn, yr ail o dri phlentyn George H. ac Elizabeth Peate. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Machynlleth a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd dan T. Gwynn Jones a H. J. Fleure a gafodd gryn ddylanwad arno. Arbenigodd mewn Archaeoleg Geltaidd ac yn 1927 penodwyd ef yn Is-Geidwad yn Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dyrchafwyd Iorwerth Peate yn Bennaeth Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin yn 1932, a gweithiodd yn ddiflino i sefydlu amgueddfa werin yng Nghymru ar batrwm amgueddfeydd awyr-agored gwledydd Llychlyn. Gwireddwyd ei freuddwyd pan agorwyd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn 1948 a phenodwyd yntau'n Guradur cyntaf hyd ei ymddeoliad yn 1971. Roedd yn ŵr o argyhoeddiadau cryf ac un annibynnol ei farn ac ymhyfrydai yn 'nhraddodiad Llanbryn-mair' y magwyd ef ynddi, sef traddodiad anghydffurfiol, radicalaidd. Bu'n heddychwr gydol oes a chollodd ei swydd fel Curadur am gyfnod oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Iorwerth Peate yn awdur toreithiog o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg a Saesneg yn ogystal â barddoniaeth, rhyddiaith a beirniadaeth lenyddol. Ymhlith ei brif gyfraniadau ym maes diwylliant gwerin mae Y crefftwr yng Nghymru (1933), The Welsh house (1940), Diwylliant gwerin Cymru (1942), Clock and watch makers in Wales (Caerdydd, 1945), a Tradition and folk life: a Welsh view (1972). Cyhoeddodd amryw gyfrolau o ryddiaith, yn eu plith Sylfeini (1938), Syniadau (1969), a'r gweithiau hunangofiannol Rhwng dau fyd (1976), a Personau (1982); bu'n olygydd monograffau megis Hen Gapel Llanbrynmair 1739-1939 (1939), John Cowper Powys: letters 1937-54 (1974), a'r cylchgronau Dragon (1922-1923), Y ddraig goch (1926-1927), a Gwerin. An international journal of folk life (1956-1962). Ymhlith y casgliadau o farddoniaeth a gyhoeddwyd mae Y cawg aur a cherddi eraill (1928), Canu chwarter canrif (1957) sef detholiad o'i gerddi, a Cerddi diweddar (1982) wedi iddo farw. Cyfrannodd nifer helaeth o erthyglau ac adolygiadau i'r wasg, rhai ohonynt dan y ffugenw 'Gwerinwr', ac roedd yn ddarlledydd radio poblogaidd.

Roedd Iorwerth Peate yn aelod o amryw bwyllgorau a bu'n Llywydd y Gymdeithas Fywyd Gwerin, Llywydd Adran H (Anthropoleg) o'r British Association for the Advancement of Science, Is-Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, un o sefydlwyr a chyn-Gadeirydd yr Academi Gymreig, ac aelod o Lys a Chyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei gyfraniad ysgolheigaidd gyda'r graddau D. Litt. Celt. er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon (1960), a D. Sc. (1941) a D. Litt. honoris causa (1970) gan Brifysgol Cymru. Cyflwynwyd bathodyn y Cymmrodorion iddo yn 1978 am ei waith dros Gymru, a chyfrol festschrift, Studies in folk life, gol. J. Geraint Jenkins, yn 1966.

Priododd Nansi (Annie) Davies, yn 1929, a ganwyd mab iddynt, Dafydd (1936-1980). Bu farw Iorwerth C. Peate ar 19 Hydref 1982.

Results 1 to 20 of 55104