Showing 2962 results

Authority record

Adfer.

  • Corporate body

Gweledigaeth Emyr Llywelyn oedd mudiad Adfer, mudiad a darddodd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cofrestrwyd Cwmni Adfer Cyf. ar y 9fed o Fedi 1970 ac un o’i amcanion oedd prynu ac adnewyddu tai yn yr ardaloedd Cymraeg er mwyn eu gosod ar rent isel i Gymru lleol gan ganolbwyntio ar ogledd a gorllewin Cymru sef cadarnleoedd y Gymraeg. Ym mis Awst 1971 roedd Adfer yn berchen ar dri tŷ yng Ngheredigion.

Aberystwyth Union of Welsh Students

  • Corporate body

Undeb i Fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yw UMCA, Undeb Myfyrwyr Cymraeg, Aberystwyth. Sefydlwyd yn 1973 i gyd-gysylltu gweithgareddau chwaraeon a hamdden gyda darparu llety a lles i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Mae ei swyddogion yn cynnwys llywydd, swyddog academaidd, swyddog lles, a swyddog adloniant. Gweithredai yn rhan o Undeb Myfyrwyr Aberystwyth tan y 1980au, pan ddaeth yn sefydliad annibynnol. Mae UMCA wedi bod yn weithgar gyda hyrwyddo datblygiad addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, ac yn y 2000au cynnar mae wedi mabwysiadu tactegau fwyfwy milwriaethus i brotestio ynglŷn â diffyg darpariaeth.

Davies, Alun Talfan, 1913-2000.

  • Person

Yr oedd Syr Alun Talfan Davies (1913-2000) yn fargyfreithiwr, barnwr a chyhoeddwr. Fe'i ganwyd yng Ngorseinon, Abertawe, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt. Fe'i galwyd at y Bar yn Gray's Inn yn 1939 ac i'r Fainc yn 1969 ac enillodd enw iddo'i hun fel arbenigwr mewn achosion diwydiannol. Safodd fel ymgeisydd mewn sawl etholiad, fel ymgeisydd Annibynnol yn isetholiad Prifysgol Cymru yn 1943, ac fel Rhyddfrydwr yn sir Gaerfyrddin, 1959 a 1964, a Dinbych yn 1966. Bu'n Gofiadur Merthyr Tudful, 1963-1968, Abertawe,1968-1969, Caerdydd, 1969-1971, a Llys y Goron,1972-1985, ac yr oedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter Sir Aberteifi, 1963-1971. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1977-1980, ac yr oedd yn aelod o Lys Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yr oedd yn gyfarwyddwr cwmni HTV, 1967-1983, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cronfa Trychineb Aberfan, 1969-1988, a chadeirydd Banc Brenhinol Cymru o1991. Gyda'i frawd hyn Aneirin (1909-1980) sefydlodd Gwasg y Dryw, Llandybïe,a chyfrannodd yn sylweddol at waith y wasg honno, gan gyhoeddi cyfrolau llenyddol pwysig yn y Gymraeg. Wedi hynny daeth ei fab Christopher yn berchennog ar y cwmni. Priododd Eiluned Christopher Williams yn 1942 a chawsant un mab a thair merch. Fe'i hurddwyd yn farchog yn Ionawr 1976. Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg, ar 11Tachwedd 2000.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

  • n 00023273
  • Person

Yr oedd D. J. Williams (1885-1970), Abergwaun, yn llenor a chenedlaetholwr.

Ganwyd David John Williams ar 26 Mehefin 1885 yn ffermdy Penrhiw Fawr ym mhlwyf Llansawel, yn fab i John a Sarah Williams (née Morgans), ac yn 1891 symudodd y teulu i Abernant, Rhydcymerau.

Mynychodd Ysgol Gynradd Rhydcymerau, 1891-1898. Rhwng 1902 a 1906 bu D. J. Williams yn gweithio fel glöwr yn Ferndale, Cwm Rhondda; Y Betws, Rhydaman; a Blaendulais. Cyn hynny bu'n gweithio ar y tir. Yn 1906 bu'n ddisgybl yn ysgol ragbaratoawl Mr Stephens, Llanybydder, ac yn 1908 fe'i penodwyd yn athro heb drwydded yn Ysgol Llandrillo yn Sir Feirionnydd. Mynychodd Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, o dan Joseph Harry, 1910-1911, ac yn 1911 aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Cymraeg yn 1914, a Saesneg yn 1915. Bu'n allweddol mewn sefydlu cylchgrawn Y Wawr, cylchgrawn Cymraeg cyntaf Prifysgol Cymru ac fe'i penodwyd yn olygydd cyntaf. Enillodd Ysgoloriaeth Meyricke i Goleg yr Iesu, Rhydychen, am ysgrifennu traethawd ar 'The nature of literary creation' gan raddio mewn Saesneg yn 1918. Bu'n dysgu Cymraeg yn Ysgol Lewis Pengam am dri mis yn 1918. Yn 1919 fe'i penodwyd yn athro Saesneg ac Ymarfer Corff yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ac yn athro Cymraeg yno o 1937 nes iddo ymddeol yn 1945.

Priododd Jane (Siân) Evans, a oedd yn chwaer i Wil Ifan, ar 24 Rhagfyr 1925, a symud i 49 High Street (a fu gynt yn dafarn y Bristol Trader), Abergwaun, a dyfodd yn fan cyfarfod i ffrindiau lu. Bu'n feirniad cyson ar gystadlaethau rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 yr oedd yn un o feirniaid y fedal ryddiaith. Lluniodd ei feirniadaeth gyntaf tra yng ngharchar Wormwood Scrubs ar gyfer cystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Yr oedd yn un o'r tri a fu'n gyfrifol am losgi'r Ysgol Fomio yn Llŷn ac fe'i carcharwyd am naw mis fel canlyniad. Ym mlynyddoedd olaf ei ddyddiau bu'n gefnogwr i ymdrechion Cymdeithas yr Iaith dros hawliau'r Gymraeg.

Bu'n ymwneud â'r Blaid Lafur cyn ymuno â'r Blaid Genedlaethol Gymreig pan ffurfiwyd hi yn 1925. Yn Ysgol Haf Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Abergwaun yn 1964 cafwyd cyfarfod i anrhydeddu D. J. Williams a Siân ei wraig, a darllenodd Waldo Williams ei gywydd mawl iddo.

Bu D. J. Williams yn Ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun, 1920-1928, ac yn Llywydd, 1936-1937, gan gynhyrchu sawl drama. Cafodd ei benodi yn Llywydd Undeb Prifysgolion Cymru yn 1935, ac yn 1957 cyflwynwyd gradd DLitt iddo er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 1965 cafodd ei ethol yn Llywydd yr Academi Gymreig ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo wedi'i golygu gan ei gyfaill J. Gwyn Griffiths.

Bu farw D. J. Williams wedi iddo roi anerchiad gwladgarol mewn cyngerdd cysegredig yng Nghapel Rhydcymerau ar 4 Ionawr 1970, ac yno y cynhaliwyd yr angladd. Ar 17 Medi 1977 dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Abernant, Rhydcymerau, gan Cassie Davies a threfnwyd gweithgareddau i'w goffáu, gan gynnwys pererindod o Gaerfyrddin i Rydcymerau gan ieuenctid y sir.

BBC Wales

  • nr 95042808
  • Corporate body
  • 1923-

Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.

Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ym mis Tachwedd 1833, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg ac ymdeimlad gwladgarol yn Y Fenni a Sir Fynwy. Yr oedd nifer o gymdeithasau tebyg ar hyd a lled Cymru yn y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn Llundain. Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill Lloegr, ond yr oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn tra rhagori arnynt i gyd yn ei chynnyrch llenyddol a'i henwogrwydd byd eang. Ei phrif ysgogwyr oedd yr hynafiaethwyr Thomas Bevan ('Caradawc y Fenni', 1802-82), y Parch. Thomas Price ('Carnhuanawc', 1787-1848) ac Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer ('Gwenynen Gwent', 1802-96), ac ymhlith yr aelodau yr oedd enwogion megis y gerddores Maria Jane Williams, Aberpergwm (?1795-1873), Arglwyddes Charlotte Guest (1812-95) yr awdures, ac uchelwyr blaenllaw lleol, yn eu plith Syr Charles Morgan, Arglwydd Tredegar (1760-1852), Benjamin Hall, Arglwydd Llanofer (1802-67) a Syr Josiah John Guest (1785-1852). Amcanion penodedig y Gymdeithas oedd casglu llyfrau Cymraeg a dyfarnu gwobrwyon am areithiau, traethodau ysgrifenedig yn y Gymraeg ar themâu amaethyddol, barddonol, crefyddol, gwyddonol, hanesyddol a hynafiaethol, yn ogystal ag ar gerddoriaeth a chelfyddydau cain. Pwysleisiwyd y dylai pob ymddiddan fod yn y Gymraeg, a bu'r Gymdeithas yn gwneud cais am ddefnydd ehangach o'r iaith mewn ysgolion, prifysgolion, yn y llysoedd a'r Eglwys, er bod ei chyfansoddiad yn gofyn i aelodau beidio ag ymhél â phethau a allai arwain at anfoesoldeb, annheyrngarwch i'r wladwriaeth, neu unrhyw ddadl grefyddol neu genedlaethol. Canolbwynt y rhan fwyaf o waith Cymreigyddion y Fenni oedd yr eisteddfodau (a alwyd yn gylchwyliau), a ddechreuodd ar raddfa fechan yn 1834. Profodd y digwyddiadau blynyddol hyn yn boblogaidd iawn, ac fe'u mynychwyd gan filoedd o bobl o bob dosbarth, gan gynnwys ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru, academyddion blaenllaw o Lydaw a'r Almaen, a hyd yn oed llysgenhadon o Ewrop a thywysogion o India. Er gwaethaf ei chryfder ymddangosiadol yn y 1830au, yr oedd hadau distryw y Gymdeithas yn ei thwf. Defnyddid mwy a mwy o Saesneg yn y rhan fwyaf o agweddau ar ei gwaith, gan fod y mwyafrif o'i noddwyr, llawer o'r ymwelwyr, a rhai o'i haelodau, yn methu siarad na deall Cymraeg, ac yr oedd hefyd yn anodd dod o hyd i fan cyfarfod parhaol addas ar gyfer y cylchwyliau cynyddol. Ond y broblem fwyaf arwyddocaol oedd y methiant i gwrdd â goblygiadau ariannol. Dibynnai'r Gymdeithas yn drwm ar gefnogaeth hael bonheddwyr lleol a'r diwydiant gwlân lleol (yr hyrwyddwyd ei chynnyrch yn y cylchwyliau), ond fel yr ai'r amser heibio nid oedd yn gallu denu noddwyr sylweddol newydd i gwrdd â chostau cynyddol ei gweithgareddau. O ganlyniad, bu'n rhaid cwtogi ar amlder y cylchwyliau mor gynnar â 1840, a daeth y Gymdeithas i ben yn 1854.

Results 2881 to 2900 of 2962