Showing 2973 results

Authority record

Ap Nathan, 1876-1960

  • Person

Roedd y Parch. James Ednyfed Rhys (Ap Nathan, 1876-1960) yn fab i Jonathan Rees (Nathan Wyn). Roedd Ap Nathan yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn llenor ac yn fardd. Bu'n weinidog yn Aberafan a Nantymoel tan 1940. Byddai'n cystadlu'n gyson ac yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyfrannai at gyfnodolion a chyhoeddodd Cymeriadau Cefn Gwlad (Caerdydd, 1948).

Anthropos, 1853?-1944.

  • Person

Roedd 'Anthropos', y Parch. Robert David Rowland ([1953]-1944), yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn fardd ac yn llenor. Cafodd ei fagu yn Nhyn-y-cefn, ger Corwen, sir Feirionnydd. Dechreuodd bregethu yn 1873 a chofrestru yng Ngholeg y Bala yn 1874. Tra'r oedd yn y Bala bu'n athro yn yr ysgol leol a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Y Blodeuglwm (Bala, 1878). Symudodd i Gaernarfon lle bu'n newyddiadurwr, gan weithio ar Yr Herald Gymraeg, Amseroedd ac Y Genedl Gymreig, y bu'n olygydd arni o 1881 i 1884. Ordeiniwyd ef yn 1887, a chael ei alw yn weinidog Capel Beulah yng Nghaernarfon yn 1890, lle yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1933. Parhaodd i ysgrifennu'n doreithiog, yn cyhoeddi cyfrolau o gasgliadau o gerddi, storiâu a thraethodau. Ymysg y pwysicaf ohonynt ceir Y Ffenestri Aur (Dinbych, 1907) a Y Pentref Gwyn (Wrecsam, 1909) lle rhydd atgofion am ei blentyndod. Bu hefyd yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1912 i 1932 ac ysgrifennai i Baner, 1904-1914, yr Herald ac amryw o gyfnodolion eraill. Bu farw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1944. Ymhlith ei gydnabod yr oedd Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo', 1831-1901), bardd, newyddiadurwr, nofelydd a chanwr o Ben-sarn, sir Fôn, a weithiodd ar lawer o'r un cyfnodolion ag Anthropos.

Results 2861 to 2880 of 2973