Dangos 1865 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Person

Selwood, Nansi

  • nr 97041183
  • Person

Yr oedd Nansi Selwood yn athrawes, ffermwraig, hanesydd lleol ac awdures nifer o nofelau hanesyddol. Fe’i ganwyd yn Annie Roderick Williams ar 8 Tachwedd 1921 yn Fferm Trebannog Isa, Penderyn, Rhigos, ac wedyn symudodd y teulu i Hirwaun. Bu’n astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n athrawes Gymraeg a Hanes yn ysgolion uwchradd Cathays, Caerdydd, a Phwllheli. Priododd Jack Selwood yn 1948. Cyfieithiwyd ei nofel Brychan dir (1987) i’r Saesneg gan ei gŵr Jack, The land of Brychan, yn 1994, a’r nofel i blant Dan Faner Dafydd Gam (1991) ganddo i Beneath the banner of Dafydd Gam (1992). Dyfarnwyd iddi Wobr Griffith John Williams 1987 am ei nofel Brychan dir. Lluniodd gyfrol am hanes Cwm Cynon sef A history of the villages of Hirwaun and Rhigos yn 1997. Dysgodd ddarllen braille yn ei hwythdegau. Bu Nansi Selwood farw ar 18 Chwefror 2017 mewn cartref gofal yn Nhrecynon, Aberdâr.

Ceiriog Jones, Huw

  • nr 97022127
  • Person
  • [blodeuo 1969-2023]

Ers 1969 mae Huw Ceiriog Jones wedi bod yn berchennog ar nifer o weisg Cymraeg yn cynnwys Gwasg Llety Gwyn, Gwasg yr Arad Goch, Gwasg y Wern a Gwasg Nant y Mynydd.

Bowen, David, 1874-1955

  • no2009179523
  • Person

Gweinidog, bardd a golygydd oedd David Bowen, 'Myfyr Hefin', a aned ym 1874 yn Nhreorci, Rhondda. Fe'i addysgwyd yn ysgol fwrdd Treorci, ysgol golegol Pontypridd, a Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n gweithio ym mhwll glo Tyn-y-Bedw a dechreuodd bregethu yn ystod diwygiad 1904, gan dderbyn ei alwad gyntaf i gapel Bedyddwyr Bethel, Capel Isel, ger Aberhonddu ym 1909. Ym 1913 symudodd i gapel Horeb, Pump-Hewl ger Llanelli.
Yn ystod ei fywyd bu'n weithgar iawn gyda nifer o gymdeithasau gan gynnwys Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru ac Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Sefydlodd Urdd y Seren Fore yn 1929 a bu'n olygydd ar gyfnodolyn yr Urdd, sef Seren yr Ysgol Sul. Bu hefyd yn golygu colofn Gymraeg y Llanelli Mercury, 1936-1945, ac yno cyhoeddwyd llawer o'i weithiau llenyddol. Cyhoeddodd David Bowen hefyd nifer o gyfrolau gan gynnwys Oriau Hefin, 1902, Cerddi Brycheiniog, 1912 a Salmau'r Plant, 1920. Enillodd dair cadair ar ddeg mewn eisteddfodau lleol yn bennaf, gan gynnwys cadair eisteddfod y myfyrwyr yng Nghaerdydd, 1909. Bu hefyd yn beirniadu mewn eisteddfodau lleol a chadwodd gopïau o weithiau nifer o'r cystadleuwyr.
Yn ogystal â chyhoeddi ei waith ei hun, bu David Bowen yn ddiwyd yn golygu a chasglu ynghyd ddeunydd yn ymwneud â'i frawd, Ben Bowen, ac eraill gan gynnwys Ioan Emlyn, Mathetes a Timothy Richard. Ymddangosodd ei erthyglau mewn cylchgronau amrywiol ac mewn cyfresi megis Cyfres y Bedyddwyr Ieuanc a Chyfres Cedyrn Canrif a gyd-olygwyd ganddo. Yr oedd hefyd yn gasglwr brwd o doriadau papur newydd yn ymwneud â gwaith Ben Bowen, ei waith ei hun ac amrywiol destunau.
Bu'n briod ddwywaith a chafodd dair merch, Myfanwy, Rhiannon ac Enid. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1939 a bu farw yn 1955.

Jones, J. T. (John Tudor), 1904-1985

  • no2007091422
  • Person

Yr oedd John Eilian yn brifardd a newyddiadurwr ac yn sefydlydd Y Cymro a’r Ford Gron. Ganwyd John Thomas Jones ar 29 Tachwedd 1903 yn Llaneilian, Ynys Môn, ond nodir ei flwyddyn geni fel 1904 mewn ffynonellau printiedig ac ar y plac ar ei gartref ym Mhenylan, Pen-sarn, Ynys Môn, a ddadorchuddiwyd yn 2004. Newidiodd ei enw canol yn gyfreithiol o 'Thomas' i 'Tudor' yn y 1930au. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Dechreuodd weithio fel gohebydd i’r Western Mail yn 1924. Golygodd gyfres o ugain o lyfrynnau o glasuron Cymraeg Y Ford Gron, 1931-1932 . Bu’n bennaeth hefyd ar raglenni’r BBC yng Nghaerdydd. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 a’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Cyfieithodd nofelau i blant a geiriau caneuon o’r Saesneg i’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan W. S. Gwynn Williams. Yr oedd yn aelod o Gomisiwn Brenhinol ar y Wasg, 1974-1977.

Canlyniadau 1 i 20 o 1865