Showing 1864 results

Authority record
Person

Williams, Ffowc, of Llandudno.

  • Person

Yr oedd Ffowc Williams, o Landudno, sir Gaernarfon, yn brifathro Ysgol Ganol Llandudno, 1933-1954. Derbyniodd radd MA gan Brifysgol Cymru am ei draethawd ymchwil, 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' yn 1929. Bu'n cynnal dosbarthiadau ar y pwnc hwn yn 1942 ac ar Seicoleg yn 1931 a 1938. Yn y 1960au a'r 1970au bu'n gwasanaethu ar Gyd bwyllgor Addysg Cymru a Phwyllgor Cymru'r Cyngor Ysgolion. Yr oedd yn ddarlledwr cyson ar y radio ar sioe banel 'Byd Natur' rhwng 1952 a 1972. Yr oedd yn aelod gweithgar o adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy o Undeb Cymru Fydd yn y 1940au, ac yn aelod o bwyllgor Aelwyd Llandudno o Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd hefyd yn aelod o Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, yn aelod o sawl bwyllgor ar gerddoriaeth eglwysig, a chasglodd deunydd yn ymwneud â gŵyl gerddorol 'Y Gymanfa Fawr', sef Cymanfa Gerddorol Annibynwyr Sir Gaernarfon.

Williams, Evan, (Llanfrothen)

  • Person

Groser a gwerthwr glo yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, oedd Evan Williams, ac roedd yn gysylltiedig â rhedeg Ysgol Sul Rhyd. Roedd hefyd yn hanesydd lleol, yn ysgrifennu erthyglau ac anerchiadau ar hanes Anghydffurfiaeth yn yr ardal.

Williams, Evan Wyn, d. 1988

  • Person

Yr oedd y Parch. Evan Wyn Williams (m. 1988) yn weinidog Methodist yn Aberfan adeg trychineb Aberfan yn 1966.

Williams, Eunice Bryn, 1919-1991.

  • Person

Yr oedd Eunice Bryn Williams (m. 1991) yn gysylltiedig â gwaith Cymdeithas Alawon Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Williams, Elizabeth Jeane Roberts.

  • Person

Yr oedd y Parch. E. Roberts Williams (1883-1952) yn weinidog ym Mhatagonia a ymfudodd o Gymru yn 1930. Yr oedd yn weinidog ar chwech o eglwysi Dyffryn Camwy yn Yr Ariannin, a berthynai i Undeb Eglwysi Efengylaidd Camwy. Yr oedd hefyd yn llywodraethwr Ysgol Ganolradd Y Gaiman. Bu farw yn 1952. Addysgwyd ei ferch Elizabeth Jeane Roberts Williams yn Chubut, a mynychodd Goleg Cenedlaethol Trelew yn y 1940au.

Results 121 to 140 of 1864