Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Urdd Gobaith Cymru. Rhanbarth Ceredigion.

  • Corporate body

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 fel mudiad i blant a phobl ifanc dan 25 mlwydd oed, gan drefnu chwaraeon a gweithgareddau oriau hamdden a diwylliannol, y cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddir pwyslais ar wasanaeth yn y gymuned. Trefnir yr Urdd yn lleol yn ganghennau, ac un ohonynt yw Rhanbarth Ceredigion, a fu'n weithgar ers 1965, a sydd yn gyfrifol am gynnal Eisteddfod Sir Ceredigion bob blwyddyn.

Urdd Gobaith Cymru. Aelwyd Aberystwyth.

  • Corporate body

Mae Urdd Gobaith Cymru, a sefydlwyd yn 1922, yn fudiad i blant a phobl ifanc, sydd yn trefnu gwahanol weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Trefnir yr Urdd yn aelwydydd yn lleol. Ffurfiwyd Aelod yr Urdd, Aberystwyth, yn 1933 (gan ddisodli mudiad rhanbarthol Cylch), ac mae'n parhau i drefnu digwyddiadau.

Urdd Gobaith Cymru.

  • Corporate body

Mudiad i blant a phobl ifanc yw Urdd Gobaith Cymru, sydd yn trefnu gwahanol weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922, yn dilyn lansio apêl gan Ifan ab Owen Edwards, y golygydd, (1895-1970) yn Cymru'r Plant. Erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd gan yr Urdd 720 o aelodau, gan gynyddu i dros 5000 erbyn 1927. Trefnwyd yr aelodau lleol yn adrannau ac aelwydydd, a sefydlwyd yr adran gyntaf yn Nhreuddyn, sir y Fflint, yn 1922. Erbyn 1927 yr oedd dros 80 o adrannau. Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed yn awr. Ar y cychwyn gweinyddwyd y cyfan gan Edwards a'i wraig, ac yn 1932 datblygodd yr Urdd yn Gwmni Urdd Gobaith Cymru [Corfforedig] gyda chyhoeddi ei Memorandwm ac Erthyglau Cwmni y flwyddyn honno. Trefnodd yr Urdd ei gwersyll haf gyntaf yn 1928 yn Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Dilynwyd hyn yn 1932 gan sefydlu canolfan breswyl barhaol yn Llangrannog. Ceredigion. Ychwanegwyd ati gan Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid, sir Feirionnydd, yn 1950. O 1932 ymlaen trefnodd yr Urdd gystadlaethau chwaraeon, y cyntaf yn Llanelli. Trefnodd yr Urdd fordeithiau hefyd rhwng 1933 a 1939, y cyntaf yn cludo 500 o aelodau i Sgandinafia. Ers 1925 y mae'r Urdd wedi darlledu Neges Heddwch ac Ewyllys Da oddi wrth Ieuenctid Cymru at Ieuenctid y Byd bob blwyddyn. Datblygiad pwysig a noddwyd gan yr Urdd oedd agor yr Ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Lluest, Aberystwyth, yn 1939, gyda saith disgybl. Erbyn 1945 yr oedd gan yr ysgol 85 o ddisgyblion a phedwar athro. Mae'r Urdd wedi cynhyrchu amryw o gylchgronau a chyfnodolion dros y blynyddoedd. Yn ogystal â Cymru'r Plant, oedd yn dal yn boblogaidd, yr oedd Cymraeg(1954) yn gylchgrawn i ddysgwyr a Cymru (1957) ar gyfer aelodau hŷn. Yn 2003 roedd tri chylchgrawn: Cip, ychwanegiad i Cymru'r Plant, Bore Da a IAW! i ddysgwyr. Efallai mai cyfraniad mwyaf arwyddocaol y mudiad i fywyd yng Nghymru yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghorwen, Meirionnydd, yn 1929. Oddi ar hynny fe'i cynhaliwyd yn flynyddol, mewn lleoliad yn ne a gogledd Cymru bob yn ail, ac mae'n parhau am chwe diwrnod erbyn hyn (2003). Yn ogystal, rhagflaenir yr Eisteddfod Genedlaethol gan eisteddfodau lleol a rhanbarthol i ddewis y cystadleuwyr terfynol. Parhaodd ymlyniad cadarn Ifan ab Owen Edwards â'r Urdd tan ei farwolaeth yn 1970.Yn 1948 ymddeolodd o'i waith fel darlithydd i roi ei amser yn llwyr i'. Ffigwr arall pwysig yn y dyddiau cynnar oedd R. E. Griffith (1911-1975) a ymunodd â'r Urdd fel Trefnydd yn 1932, chael ei ddyrchafu yn Brif Drefnydd yn 1935 a'i apwyntio yn Gyfarwyddwr yn 1959. Ymddeolodd c. 1972. W. J. Williams oedd trysorydd cyntaf y Cwmni yn 1932.

University of Wales. Guild of Graduates. Adran Amaethyddol Gymraeg.

  • Corporate body

Sefydlwyd Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru yn y flwyddyn 1894. Mae pawb sydd yn graddio o'r Brifysgol yn aelodau. Trefnir yn Adrannau sy'n ymdrin â gwahanol bynciau, a Changhennau sy'n ymdrin ag ardaloedd penodol. Roedd yr Adran Amaethyddol Gymraeg yn weithredol o 1927-1968. Ffurfiodd bwyllgor (Pwyllgor Bathu Geiriau) i awgrymu termau newydd Cymraeg ar gyfer amaethyddiaeth, a chyhoeddi cylchgrawn, Gwyddor Gwlad, 1952-1963.

Canlyniadau 41 i 60 o 11925