Identity area
Type of entity
Authorized form of name
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Ym mis Chwefror 1889 penderfynodd pwyllgor o dan arweiniad y gweinidog ar y pryd, y Parch. R. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan), i godi capel newydd yn Rhuthun yn lle Capel y Rhos. Roedd gan y gweinidog ei hun ddylanwad yng nghynllun yr adeilad, diddordeb a godai yn ôl y sôn o'r cyfnod y bu yn byw yn Ffrainc. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn hen gapel y Rhos ar 19 Ebrill 1889 gyda'r cyfarfodydd agoriadol yn dilyn yn y Tabernacl rhwng 22 Ebrill a 29 Ebrill. Ychwanegwyd mans a thŷ i'r gofalwr ym 1892. Ar ôl symud i'r capel newydd, sefydlwyd Capel Stryd y Rhos fel ysgoldy a chanolfan ar gyfer gweithgareddau eraill a ddaeth i ben ym 1944.